Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

megis cynnal cyfarfodydd eglwysig, gweinyddu'r ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, holi yr ysgolion yn gyhoeddus, &c.

Pan gartref byddai ei ddwylaw yn llawn, oblegid, heblaw ei fod yn cael ei alw yn barhaus i weinyddu i'r eglwys gartrefol a'r eglwysi cymmydogaethol, yr oedd y gorchwylion oedd yn treiglo arno fel Ysgrifenydd y Gymdeithasiad, Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir, ac Ysgrifenydd y Sunday School Union dros y Deheudir, yn nghyd a swyddau eraill, a gynnaliai yn difrodi ei amser, ac yn treulio ei nerth, i raddau na ddichon neb ddychymyg ond y rhai sydd yn gynefin â'r cyfryw ymrwymiadau. Byddai llythyrau o bob math, ac oddiwrth bob math o bersonau, yn cael eu pentyru arno. Yr oedd yn ymddangos fel pe buasai pawb yn tybied fod ganddynt hawl i ollwng eu saethau papur ato ef fel rhyw nod cyhoeddus. Os byddai rhyw un wedi derbyn, neu yn dychymygu ei fod wedi derbyn, unrhyw ormes yn ngweinyddiad y ddyscyblaeth; os byddai rhyw fasnachwr wedi dyoddef anghyfiawnder oddiwrth un o aelodau y Trefnyddion Calfinaidd; os byddai gan ryw un feirniadaeth ddysgedig i'w wneuthur ar gymeriad personol gweinidog, neu gyfansoddiad cyffredinol y corph; os byddai gan neb gweryl yn erbyn neb, nid oedd dim i'w wneuthur ond anfon yn uniongyrchol i Dregaron, heb feddwl dim fod yr hyn oedd yn cyfoethogi trysordy'r brenin yn ardreth drom ar wrthddrych eu gohebiaeth. Rhoddir cyn diwedd y gwaith hwn daflen gywir o lafur a theithiau Mr. Richard, wedi ei chasglu o'r cof-lyfrau a gadwai efe trwy'r amrywiol flynyddau o'i weinidogaeth. Gallasem ychwanegu un dosparth arall yn y daflen, ond efallai ei fod yn ddoethach i ni yn bresennol ei gadw yn ol. Ond