Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymerwn yr hyfdra i sylwi na fuasai'r dosparth hwnw o honi yn un anrhydedd i eglwysi y Trefnyddion Calfinaidd. Yr ydym yn cwbl gredu nad oedd hyn yn cyfodi oddiar ddiffyg parch tuag ato, neu o herwydd nad oeddynt yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, ond oddiar hen drefn ac arfer a ddylasent gael eu cyfnewid yn mhell cyn hyn. Nid oes dim yn fwy sicr, na bydd ond ofer i'r Trefnyddion Calfinaidd rhagllaw i ddysgwyl y bydd i ddynion o ddoniau a dysgeidiaeth aros yn eu plith, oni chanfyddant rwymedigaeth y ddeddf a sefydlwyd gan Ben mawr yr eglwys mewn perthynas i weinidogion y gair, Oblegid felly yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl, fyw wrth yr efengyl.

Efallai na chyfrifir ein gwaith yn gyflawn heb i ni nodi rhyw gymaint yn mherthynas i'w farnau fel duwinydd. Ni byddai hoff o gynniwair yn fynych tuag at yr ymylau peryglus hyny ag ydynt yn ffinio y wybodaeth eglur a roddwyd i ddynion yn nghylch dirgelion teyrnas nefoedd, oblegid yr oedd wedi canfod cymaint o ffolineb dynion yn ymgiprysu â'u gilydd yn y tywyllwch, mewn perthynas i bynciau nad oedd na'r naill na'r llall yn deall dim yn eu cylch. Yr oedd yn dal yr athrawiaeth a elwir yn gyffredin Calfiniaeth, ond nid yn yr ystyr hyny ag sydd yn arwain i Antinomiaeth; a chan ei fod yn gwybod yr anhawsderau o ddyfod i benderfyniad cadarn a hyderus mewn perthynas i lawer o fanwl-bynciau cysylltiedig â phob cyfundraeth, yr oedd yn medru ymarfer hynawsedd tuag at rai nad oeddynt yn gallu cydweled âg ef ar bob pwnc. Mewn gair, nid oedd dim a fynai ef âg athrawiaeth anffaeledigrwydd.

Nid oedd yn caru ymyraeth ond ychydig âg achos-