adnewyddiad i'r enaid. Bum yn ddiweddar yn Llundain, a gwelais yr hen bibellau pren oedd yn arfer trosglwyddo dwfr trwy'r ddinas, wedi eu tynu o'u lle. Gofynais beth oedd i wneud â hwy. O, meddai rhyw un, maent yn awr yn hollol ddifudd i ddim ond i'w llosgi, oblegid maent wedi pydru yn y gwasanaeth. Ac mi feddyliais mae felly bydd ar rai o honom ninau; wedi bod yn foddion i ddyfrhau a dadebru eraill, ond heb dderbyn un rhinwedd ein hunain trwy'r gwirionedd, yn pydru yn ein gwaith, ac yn myned yn fit i ddim ond ein llosgi.
Cofiwn, fy mrodyr, mae nid yn mhob man a chyda phob peth y rhydd yr Arglwydd ei gymdeithas. Pan oedd Joseph yn myned i amlygu ei hun i'w frodyr, yr oedd yn rhaid cael yr Aiphtiaid allan yn gyntaf; felly, cyn y datguddio Crist ei ogoniant i'r enaid, mae'n rhaid cau allan lawer o bethau o'r fynwes. Ac nid pechodau rhyfygus yn unig sydd yn yspeilio dynion o wyneb yr Arglwydd, ond yn aml rhyw bethau bychain yn ein golwg ni. Fe robiwyd y dyn o'i arian: Wel, pa fodd? A ddaeth rhyw leidr pen-ffordd i gyfarfod ag ef i'w daro i lawr, a bygwth ei fywyd? O, na bu dim felly; ond fe gollodd ei holl drysor, ni ŵyr yn iawn pa fodd, na thrwy law pwy; felly mae dynion yn cael eu hanrheithio o ffafr yr Arglwydd, a'u holl lewyrch a'u mwynhad crefyddol, nid gan bechodau rhyfygus ac amlwg, ond trwy ryw bethau dirgel nad ydynt hwy eu hunain yn eu hadnabod yn iawn.
Mae eich pen, meddai efe wrth un hen frawd, yn dangos eich bod bron myned oddi yma, ond peth mawr os ydych yn addfedu o ran eich hysbryd. Mae'n drwm os bydd rhaid gwneud â ni fel y bydd y farmer yn gorfod gwneud â'r llafur sy'n pallu addfedu.