Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol hir ddysgwyl a'i adael cyhyd ag y byddo bosibl, wel, beth wneir iddo, meddai rhyw un? Rhaid i mi ei dori lawr fel y mae. Glas iawn yw e', ac ni bydd fawr werth; ond nid gwiw dysgwyl yn hwy, rhaid i mi ei fedi. Felly y mae lle i ofni y bydd rhaid i'r Arglwydd, ar ol ein gadael am amser maith i edrych a addfedwn, ein cymeryd yn y diwedd yn las ac anffrwythlon iawn.

Dylem fod yn glir iawn am ein hanfoniad i'r weinidogaeth, fy mrodyr. Peth peryglus iawn yw rhedeg i'r gwaith hwn heb ein galw, a pheth diwerth a diawdurdod fydd ein pregethu. Mae dynion yn cymeryd y gorchwyl hwn mewn llaw heb eu hanfon, fel pe bai plant y dref yn cael gafael ar gloch y crier, ac yn myned allan i'w chanu ar hyd yr ystrydoedd, ond nid oes ganddynt ddim ond y swn, heb un awdurdod, ac heb un genadwri chwaith oddiwrth swyddwyr y ddinas. Mae miloedd yn y deyrnas hon yn pregethu, wrth ba rai y dywed Duw, Pwy a geisiodd hyn ar eich llaw chwi? O, mae arnaf ofn cyfarfod â'r gair hwn yn y farn! Mae llawer dyn yn siarad yn. ffraeth am dano ei hun. Pregethwr wyf fi,' meddai'r dyn; ïe, ond pwy a geisiodd hyn genyt? Beth os bydd hi arnom ni fel y dynion mae Crist yn son am danynt, pan elom i ymddangos ger ei fron ef? Buom ni yn pregethu yn dy enw di, yn trafaelu, ac yn llafurio, ac yn chwysu, 'Ac yntau a etyb, Pwy a geisiodd hyn ar eich llaw? nis adnabum i chwi erioed.'

Dylem fod yn grynedig iawn gyda'r gwaith, fy mrodyr, canys gwaith ofnadwy ydyw. . Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais,' meddai'r Salmydd. Ychydig, mi feddyliwn, sydd a'r agwedd hon arnynt yn bresennol, yn crynu ac yn arswydo dan rym y gen-