Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gilydd. Ond y mae'r gof â'i forthwyl bychan yn ei law yn dangos iddo y fan y dylai guro, ac yn dweud,

Taro di lle 'rwyf fi yn taro,' ac yna mae'r haiarn yn gweithio ac yn ymestyn, ac yn dyfod i'r llun yr oedd y gof yn bwriadu ei gael. Felly chwithau, pan byddo rhyw frodyr cryfion eu hysgwyddau o'r De' neu'r Gogledd yn dyfod atoch, dangoswch iddynt y man i daro ar achos pob aelod, trwy daro yn gyntaf â'ch morthwyl bach eich hunain.

WRTH AELODAU MEWN CYFARFODYDD EGLWYSIG.

Wrth ymddiddan mewn Cyfarfodydd Eglwysig, byddai'n arferol o ddweud, Mynwch grefydd gryno a chyflawn, crefydd yn ei holl ranau, pob peth yn ateb i'w gilydd. Pe gwelech ferch ieuanc yn rhodio ar hyd yr ystrydoedd a gŵn sidan costus am dani, a chlocs a bacsau ar ei thraed, oni byddai hyny yn anhardd iawn, ac yn ddefnydd gwawd a chwerthin i eraill? felly dyn crefyddol heb bethau crefydd sydd olwg anhyfryd, ac yn peri llawer o achos gwawdio a chablu i'r gelynion. Pob peth crefydd sydd eisiau, gwybodaeth o'r wir athrawiaeth, profiad hefyd o'i rhinwedd, ac ymarweddiad addas iddi. Mae rhai dynion athrawiaethol iawn—dim ond y pwnc wna'r tro iddynt hwy; eraill yn ymofyn dim ond y profiad—mae rhaid cael siwgr o hyd neu thâl hi ddim; ac eraill drachefn â'u holl sylw ar y traed—ceisio ymddwyn yn ddiwarth yw eu hunig amcan. Mae pob un o'r pethau hyn yn briodol iawn yn ei le; ond os ydym am fod yn grefyddwyr cyflawn, ymorchestu am danynt oll, crefydd yn y deall, yn y profiad, ac yn yr ymarweddiad.

Mae eisiau mwy o gymdeithasu â Duw yn y dirgel arnom; a'th Dad, yr hwn a wel yn y dirgel, a dâl i ti