gwahaniaeth mawr rhwng cymeriadau dynion, a dylech chwithau amcanu adnabod beth yw ansawdd meddwl pob un, ac ymddwyn tuag ato yn gyfatebol. A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor, eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân.'
Ac wrth weinyddu cerydd, byddwch ofalus am ei wneuthur mewn tymher briodol. Nid ymruthro yn ffyrnig ar ryw ffaeleddau bach, fel pe baech am ladd y dyn. Mae ambell flaenor wrth geryddu aelod yn yr eglwys, fel pe gwelech ryw ddyn yn myned i ladd gwybedyn ar dalcen ei frawd à morthwyl haiarn. Dim ond gwybedyn sydd yno; a phe b'ai e'n estyn ei fys, byddai'n llawn digon i ateb y dyben, ond yn lle hyny chwi welwch y dyn yn ymaflyd yn yr ordd fawr, ac yn anelu â'i holl nerth at dalcen ei frawd. Ceisiwch gyfateboli y cerydd at faint y bai, peidio gwneud rhyw swn mawr am bethau bychain, a goddef i ryw ysgymun-beth diriaid fyned heibio yn ddisylw. Weithiau chwi glywch flaenor yn taranu'n ddychrynllyd ar g'oedd yr holl eglwys os gwel ryw lodes fach ddol wedi troi tamaid o ribban oddeutu ei hat, ond nis clywir ef yn yngan un gair am fod Mr. Hwn-a-hwn wedi dyfod adref o'r farchnad yn haner meddw.
Dylai fod sylw manwl genych ar yr aelodau yn gyffredinol, fel y galloch gyfarwyddo dyeithriaid a fyddo yn dyfod atoch yn achlysurol, pa beth i ddweud wrth y rhai yr ymddiddenir â hwy. Chwi fuoch yn sylwi ar y gof gwedi tynu'r haiarn poeth o'r tân i'r einion, yn galw rhyw ddyn cryf ei ysgwydd a fyddo'n dygwydd bod yno, i gymeryd yr ordd fawr mewn llaw yn barod i'w guro. Eto gwyddoch nad yw hwnw yn cael taro arno fel y myno chwaith, onite fe ai'r haiarn yn gnyciau ac yn bantau, ac fe allai yn gatiau oddiwrth