Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nes yn mlaen ar y tywydd garw yn ffyddlon hyd y diwedd.

Hyn sydd yn profi gwir berthynas âg achos Crist, a gwir gariad ato, ein bod yn canlyn gydag ef pan byddo yn dyfod at rwystrau ac i ganol anhawsderau. Chwi welsoch weithiau mewn angladd lawer o ddynion yn barod i roi eu hysgwyddau dan yr elor tra byddo ar ganol ffordd deg; ond pan ddelo i ymyl yr afon, cewch weled y rhan fwyaf yn cilio 'nol, ac yn ymofyn am y bont-bren. Ond mi welaf rhyw bedwar dyn yn ymaflyd yn yr elor, ac yn rhodio yn mlaen i ganol y d'wr, ac yn penderfynu myned a'u llwyth trwodd pe byddai raid iddynt fyn'd hyd at yr ên. Wel, pwy yw y rhai hyn? O rhyw gyfeillion ffyddlon i'r marw. Felly byddoch chwithau, fy mrodyr a'm chwiorydd, yn barod i roi eich hysgwyddau o dan arch yr Arglwydd pan byddo'n myned trwy'r dyfroedd dyfnaf, os bydd angen.

Gofalwch rhag i chwi gael eich dallu trwy dwyll cyfoeth, fel na byddoch yn gweled mawredd a phwysfawrawgrwydd y pethau a berthyn i'ch iechawdwriaeth. O'r fath wrthddrychau gwael a distadl a all wneuthur hyn! Pe b'ai i chwi ddal dimau yn agos iawn at eich llygad, hi all guddio'r haul yn ei holl ddysgleirdeb a'i ardderchawgrwydd o'ch golwg; ac felly pethau bychain iawn yw pethau'r byd hwn; ond os deliwch hwynt yn rhy agos at eich serchiadau, chwi ellwch guddio â hwy holl ogoniant y byd tragywyddol.

Chwi fuoch yn sylwi ar ambell i ddyn afiach, a golwg wael a nychlyd iawn arno. Wel, holwch beth sydd arno. O, meddai yntau, eistedd ar y ddaear wneuthum i er ys amser maith yn ol, ac ni chefais ddiwrnod iach byth wedi hyny. Ac felly mae ar ddyn-