ion sydd yn caru'r byd hwn; maent yn eistedd ar y ddaear ac afiechyd ysbrydol yn ymaflyd yn eu henaid, o dan ba un y gwelir hwy yn dihoeni am flynyddau.
Wrth wrando ar ryw un yn dweud ei brofiad, yr hwn a achwynai ei fod yn ammheus pa un a oedd pechod wedi ei symud o'r llywodraeth yn ei galon, neu nid oedd. Wel, fy mrawd, ebe yntau, adnabyddwch pa un ai chwi sydd yn dilyn pechod neu bechod sydd yn eich dilyn chwi. Yr wyf yn cofio y byddai yn arferiad gynt gan wŷr boneddigion i gadw blacks yn weision, a'r pryd hyny yr oedd y black yn myned o flaen ei feistr, ac yntau yn dilyn; ond fe newidiodd y ddefod (fashion) wedi hyny, fel yr oedd y gwr boneddig yn myned yn mlaen a'r black yn dyfod ar ol. A chyffelyb i hyn yw'r cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle yn yr adenedigaeth; am hyny, fy mrawd, ymofynwch chwithau pa un ai yn ol neu yn mlaen mae y black.
Wrth un arall a achwynai ei fod yn cael ei ofidio gan feddyliau ofer, dywedai, A ydych chwi yn sicr nad ydych yn rhoi cefnogaeth iddynt ar ryw achlysuron yn ddirgel? Pan byddoch yn myned i ambell i dŷ, chwi welwch y fowls yn rhuthro i mewn yn eofn iawn drachefn a thrachefn, a gwraig y tŷ yn eu gyru allan, dan gywilyddio o flaen dyeithriaid. Ond pan na byddo neb yno, y mae hi yn arfer taflu dyrnaid o lafur yn fynych iddynt ar lawr y gegin; ac felly mae'n bosibl eich bod chwithau weithiau yn porthi y meddyliau ofer hyn, a thrwy hyny yn eu dysgu i ddyfod yn mlaen yn eofn pan y byddoch am eu cadw draw.
Wrth ymddiddan â llances ieuanc oedd yn dechreu oeri gyda chrefydd, dywedodd fel hyn, Mae ambell i grefftwr weithiau yn blino ar ei grefft, ac y mae yn