cymeryd farm. Ond er hyny nid yw yn gwerthu ei arfau, megis y fwyall, a'r llawlif, a'r plane; ac yn mhen tipyn mae e'n blino ar y farm drachefn, ac yna yn dychwelyd yn ol at yr hen grefft. Ond mae un arall yn gwerthu yr holl dools ar unwaith, ac yna mae'n rhaid ymroi ati. Ac felly mae llawer wrth ddyfod at grefydd; maent yn gadael yr hen grefft am ryw ychydig, ond nid ydynt yn gwerthu'r arfau; ac am hyny, maent hwy yn medru gwneud ambell i job gyda'u hen gyfeillion fel o'r blaen, ac, wedi blino ar grefydd, gallant droi 'nol pryd y mynont at yr hen alwad. Ond y rhai sydd wedi gwerthu'r fasged arfau, 'does dim modd i'r rhai hyny droiʼnol byth. Felly tithau, fy merch fach i, gochel dy fod heb werthu'r hen arfau, ac y byddi yn dychwelyd 'nol atynt eto.
Wrth ymddiddan â gwraig oedd mewn galar mawr ar ol colli ei gwr, dywedodd, Mae troion fel hyn yn debyg i ddyn yn cael ei daflu i'r afon; mae e'n teimlo rhyw ias arswydus ar y pryd, ond y mae hyny yn myned heibio yn raddol, ac y mae'n dyfod i fynu drachefn; felly tir anghof yw'r bedd, ac ni ddeuwn allan yn mhen tipyn o'r gofid mawr; ond y pwnc pwysig yw, pwy ochr y deuwn i fynu o'r dwfr, pa un ai yn nes at Dduw neu yn mhellach oddiwrtho. Mae cystuddiau yn bethau defnyddiol iawn yn eu heffeithiau ar eneidiau'r saint. Nid ydynt ynddynt eu hunain ond pethau garw a gwrthun, a gellir meddwl wrth edrych arnynt nad ydynt dda i ddim ond i boeni a brawychu dynion. Fel y gallai dyn anwybodus ddychymygu am y maen hogi, Nid yw hwn werth dim, meddai'r dyn, ni thor e' fara ac ni feda ŷd. Mae hyny'n wir, ond fe rydd awch ar y gyllell a'r cryman a bar iddynt hwy dori yn llawer gwell. Felly, fy chwaer,