Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i ras. Gwelais bethau rhyfedd allan o'i air yn Luc xiv. 23. O! am gymhorth i beidio tristau ei ysbryd anwyl, ac i rodio yn isel ger ei fron.

***** "Tachwedd 3. Coder maen i'r Arglwydd eto, canys cynnorthwyodd yr Arglwydd. Teimlas raddau anarferol o helaethiad yn ei waith, ac yr wyf yn gostyngedig hyderu, gan mae yn wyneb fy holl waeledd yr eglurodd ei hun, ac mae o wendid i'm nerthwyd, fod wyneb yr Arglwydd ar ei was gwael. Arweiniodd fi y dydd hwn ar hyd ffordd nid adnabum. Oh ryfedd ras, yn gwneud sylw o ymddifad! Ar Lug xiv. 22, hefyd Salm cxxxvi. 23, cefais achos o newydd i ganu ei drugaredd sydd yn dragywydd. Y dydd canlynol i hwn fe'm cynnorthwywyd hefyd.

***** "12. Bu cyfarfod misol y sir yn nghyd heddyw yma. Pregethodd y brawd Evan Harries ar Heb. i. 3, ac yma y cefais y newydd syn, annysgwyliadwy, am farwolaeth ———. Gwelai mae ynghanol ein bywyd yr ydym mewn angeu, a tharawyd fi a'r gair yn Matth. xxiv. 44. Ymdrechais lefaru ychydig oddi wrtho y dydd canlynol yn ei hangladd. Y nos hon, sef y 13eg, a fu'n werthfawr; i'r Arglwydd y bo'r clod! Llyncwyd fy myfyrdod i'w gyfraith ef—teimlais ei achos yn nes ataf na dim arall hiraethais na allaswn wneuthur mwy gydag ef yn y byd. I'r dyben hyn adnabum orsedd gras yn werthfawr.

***** "24. Oedd sabbath yn wir i'm henaid. O! am enaid a chwbl i fendithio'r Arglwydd am ei diriondeb y dydd hwn i mi, waeledd, yn mysg fy mhobl fy hun—y boreu ar Job xi. 20, yr hwyr ar 1 Cor. x. 4. Byth ni