Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anghofiaf yn llwyr y Sabbath hwn, canys efe a gwblhaodd ei air daionus a'i was gwael: ond deallais nad ydwyf un amser mewn mwy o berygl na phan y bo'r Arglwydd yn gweled yn dda egluro ei hun i'm henaid. O gwna i mi wilio.'

***** "Rhagfyr 11. Cyfarfu cymdeithas fisol y sir heddyw yn Nhŷ—ddewi. Pregethodd Mr. Evan Harries, a Mr. Jones, Langan; y cyntaf oddi wrth Dat. vi. 2; a'r ail oddi wrth Phil. iii. 10. Cafwyd achos o newydd i hyderu fod yr Arglwydd heb ein gadael, a bod ei wyneb ar y gwaith dirgel a chyhoedd.

12. Daeth y gymdeithas gartref yn nghyd i'r cyfarfod gweddi heno, a gobeithio nad heb yr Arglwydd. Profais raddau o awdurdod y gair hwnw ar fy meddwl, Zêl dy dŷ di a'm hysodd i.' Gwelais os bydd arnaf wir zel tros ogoniant tŷ Dduw a'i achos, y bydd hi yn ysu fy nghnawd a'm balchder, a'r ceisio fy hunan sydd ynof. O am brofi hyn yn sylweddol! O Arglwydd, cynnorthwya fi i gadw fy lle tuag at dy air di yn mlaenaf, ac yna tuag at bob dyn.

"Ionawr 1, 1806. Dechreuais flwyddyn newydd heddyw. Cyfarfum a'r Loyal Briton Society' heddyw. Llawer fu tywydd fy meddwl wedi fy ngalw at y gorchwyl presenol, ac, ar ol llawer o wibio yma a thraw, sefydlodd fy meddwl ar y rhan hyny o air Duw, Luc. ii. 14, Ac ar y ddaear tangnefedd.'

Yr ydwyf yn hyderu i'r Arglwydd fy nghynnorthwyo. Gwelais ei fod yn arwain y deillion ar hyd ffordd nid adnabuant. Yr ydwyf yn cofio llawer o dywydd fy meddwl oherwydd addaw yn rhy fyrbwyll myned i S. heb osod yr achos ger bron yr Arglwydd. Oh! na byddai hyn yn rhybudd i mi rhag llaw. Llawer a gynhyrfodd