balchder fy nghalon ar yr achos hyn, ond gwelodd yr Arglwydd yn dda fy narostwng, maddeu i mi, a llewyrchu ei wyneb i ryw raddau ar fy meddwl. Dyma Dduw rhyfedd! Aethum o S. i A.; yma mae hi eto, yn hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd fi—Clod iddo!
***** "6. Nid oedd y Sabbath yn ddrychinllyd iawn, ond y mae'r Llun ar ei ol yn dymhestlog iawn. Fel hyn y mae yn aml yn ysbrydol arnaf yn fy mhererindodar ol hin dda yn ngwaith fy Arglwydd, rhyw storm yn fuan yn codi; ond, er mor ddrwg yr hin oddi allan, nid wyf yn gallael cofio i myfi dlawd brofi cymaint o help yn y gwaith er pan wyf wrtho. Gwnaeth yr Arglwydd hi'n dda arnom yn wir—clod iddo! O am ymgadw yn agos ato byth! Daethum yn hwyr i Câs B. ond teimlais mae dau beth yw cael graidd o help i fyned trwy'r gwaith er harddwch allanol, a chael y gwynt nefol i lenwi ein hwyliau yn y gwaith.
"7fed. Dygwyd fi tan rwymau newydd i glodfori'r Arglwydd heddyw, am fy nwyn yn iach adref unwaith eto. Teimlais yn y tro yma radd o fin, a llymdra'r holiad pwysfawr hwnw, A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt?' Rhuf. x. 15. Ni allaswn feddwl llai nad oedd rhai yn pregethu heb eu danfon; arnaf ofn fod fy hun o'u rhifedi. Ond pa fodd yw'r holiad? diau mae yn gnawdol, ac yn ddibrofiad o'r gwir, ac y mae yn rhaid heb arddeliad yr Ysbryd Glân. Yna och! pa ryw anturiaeth ofnadwy oedd rhuthro ar y gwaith mawr, ac y mae pawb yn annigonol iddo, ond y rhai a arddelir gan Dduw, ac y mae eu digonedd o Dduw, heb ddim ond ychydig ddoniau tafod-leferydd yn gymhorth iddo, canys pa fodd y gall hwnw geisio wyneb Duw arno, yr hwn ni anfonodd Duw i'r gwaith?