Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"8ed. Cyfarfu cymdeithas fisol y sir heddyw yn Carfarchell, ac yn mhlith rhyw ychydig o bethau ereill a fu'n ddirgel, gwrandawyd cwyn cymdeithas y lle mewn perthynas i gael ordinhad swpper yr Arglwydd i'w gweini yno. Trosglwyddwyd yr achos trwy gydsyniad i'w benderfynu gan y Gymdeithasiad Chwarterol nesaf. Ofnodd fy meddwl ryw gymaint rhag bod i ni bechu Duw o'n plith trwy ein diystyrwch ar ei ordinhadau, a'n dibrisdod o honynt. Pregethodd 1af Mr. Williams (student), a Mr. Jones, Langan, oddi wrth Esa. xxxii. 2, a llanwyd ni oll.

***** "16 . . . . Teimlais a deallais fod gan yr Arglwydd ryw lais neillduol tu ag ataf oherwydd fy malchder heddyw, ac am hyny ceisiais ymostwng i wrando. Dychrynais wrth edrych ar fy rhyfyg yn rhuthro at waith Duw yn ddiolwg ar ei fawredd, a'm gwaeledd fy hun. O na ddysgid fi i rodio yn isel ger bron yr Arglwydd! Daethum i —— heno, ond och! arosodd y cwmwl arnaf yr hwyr hwn hefyd. Cyfiawn iawn wyt ti, O Arglwydd—i mi y perthyn cywilydd wyneb a chalon.

***** "Mawrth 2il. Dyma Sabbath yn y gwaith gartref. Helpwyd fi i roddi fy achos i fynu i law'r Arglwydd. Am waith y boreu ni allaf ddywedyd fy llwyr adael, ond cyfyngwyd arnaf i raddau mawr. Bûm wrth yr ysgol sabbothol dros rai oriau yn y prydnawn. Aethum yn gysurus fy meddwl at odfa'r hwyr yn y gymmydogaeth, gan gredu fod genyf wir Duw i'w gario i'r bobl. Teimlais loes newydd heddyw am fy anfoniad i'r gwaith, ond fe'm nerthwyd i appelio at Dduw, nad oedd genyf ddim yn fy nghadw gyda'r gwaith ond ofn