Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Duw i feddwl ymadael ag ef. Yn yr hwyr fe'm helpwyd, ond cefais le i ofni nad oedd y gwir yn bachu.

***** 19. Dyma ddiwrnod ein cyfarfod gweddi. Och! mor anmharod ac anaddas ydwyf i'r gwaith mawr o geisio dynesu at Dduw. Ceisiais feddwl heno cyn dechreu ein cyfarfod mae yn moddion gras mae'r Arglwydd yn adferu ac yn adnewyddu ei bobl. Crynhodd yn nghyd lawer o bobl, tu hwnt a welais er ys dyddiau lawer. Diolch i Dduw am hyn. Cynnorthwywyd y brodyr yn y gwaith yn gyhoeddus i fyned trwyddo yn hardd. Yn ddirgel fe ymddiddanodd amryw o honom ryw beth am ein tywydd. Cafwyd gradd o gymhorth i ymddiddan â dwy chwaer, ac ar ddiwedd y cyfarfod canwyd yr hymn hono,

'Dechreu canu, dechreu canmol.'

Yn y rhan hon o'r gwaith gwawriodd arnom mewn modd anarferol; aeth rhwymau llawer yn rhyddion, ac ymadawsom, er ei bod yn awr ddiweddar o'r nos, mewn tangnefedd ac yn siriol. Diolch i'n Duw!

***** "24. Sylwais yn ddiweddar, wrth waith y plant yn yr ysgol yn myned trwy lyfrau'r Brenhinoedd, ar y ddau beth canlynol fel addysgiadau. Yn 1af, Fod trigolion y byd hwn fel olwyn, a'r rhai sydd yn uwchạf yn bresenol yn ddarostyngedig i fod yn isaf yn fuan, yr hyn a siampleiddiwyd i mi yn hanes yn 2 Bren iv. 8, 13'; mae hi i fynu fel ochr uwchaf yr olwyn, ond yn pen. viii. 3, y mae yn ymddangos ei bod yr ochr isaf iddi. Yn 2il, Bod rhyw gystadliaeth rhwng dyddiau Ahaz, brenin Juda (2 Bren. xvi. 17), a dyddiau dyfodiad Anghrist i mewn; canys megis ac y darfu Ahaz ddiscyn y môr tawdd oddiar yr ychen ar ba rai y safodd er