Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyddiau Salomon hyd ei ddyddiau ef, a'i osod ar balmant (pavement) o gerig, felly yn nyfodiad Anghrist i mewn fe ddiscynwyd gweinidogaeth yr efengyl, o ba un yr oedd y môr yn gysgod, o fod ar gefnau gweinidogion llafurus yn ei phregethu, fel y deuddeg apostol, ac y rho'wd hi ar balmant o gerig, dynion difywyd a dilafur, lle y gorphwysodd yn hir, megis archesgobion, esgobion arglwyddaidd, &c., yr hwn oedd y pavement godidog ar ba un y rho'wd y môr.

***** "Ebrill 9. Y boreu heddyw, fel yr oeddwn yn darfod fy moreufwyd, galwodd dyn yn y drws o'r Dinas, a mynegodd fod ei unig blentyn, yr hwn a fuasai gyda mi yn yr ysgol ychydig o flynyddau yn ol, wedi marw o'r frech wen, (yr hon oedd drwm iawn yn yr ardal,) ac oedd wedi gorchymyn ychydig cyn marw i anfon am danaf i'w angladd. Addawais fyned y dydd canlynol.

***** "13. Dyma Sabbath garw anarferol o ran yr hin. Sul Mr. T. ydyw, eto fe'n hymddifadwyd o hono ef o herwydd y tywydd, a syrthiodd y gwaith cyhoedd gartref i'm rhan i. Ofnais lawer am yr odfa, a chyfyngwyd arnaf mewn gweddi wrth ddechreu, a theimlais fy meddwl yn soddi. Eto er hyn i gyd ni'm gadawyd-cefais fy nerthu i sôn am lafur enaid y Messiah anwyl, a phrofais ryw felusder yn y gwaith, ac ni wrandawyd y sôn yn gwbl ddieffaith yr wyf yn hyderu. Pa le mae fy nghalon anniolchgar? O na folianai'r Arglwydd am ei ryfeddodau i mi. Aethum y prydnawn i wrando un o'm brodyr yr Anymddibynwyr, ac yr oedd i fedyddio baban yno, ar ba achos y mawr helaethodd ar hawl babanod i'r ordinhâd, &c. Arglwydd, arwain fi. *****