Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"20. Dydd yr Arglwydd yw hwn eto. Aethum y boreu heddyw i wrando y brawd E. H., a llefarodd i'm tyb i dan neillduol arddeliad, a chydag awdurdod Daethum inau at ran o'r gwaith yn y prydnawn. Ni theimlais ddigon o boen meddwl am genadwri at y bobl. Aethum trwy'r gwaith eto dan raddau amlwg o gyfyngder. Yn y gwaith gwelais briodolder y gair hwnw, Ond eglurhâd yr ysbryd a nerth.' Dyma'r cwbl sydd arnaf eisiau, yr eglurhâd i wneud y gwir yn oleu, a'r nerth i awdurdodi'r gwir, a'i wneud yn effeithiol.

***** "Awst 25. Yr ydym yn dychwelyd heddyw i'r un lle ag y buom ddoe. O am Ysbryd yr Arglwydd i ddychwelyd gyda ni! Cafwyd llawer i wrando, a chefais, yr ydwyf yn gobeithio, le i hyderu fod y gwaith heddyw eto yn cael ei gadw mewn eglurder, a chyda gradd o nerth. Moler yr Arglwydd am hyn! Cawsom gymdeithas brifat yma eto-y gymdeithas fwyaf o ran nifer y bum ynddi erioed, canys dywedwyd i mi ei bod yn agos, os nad yn 400, ac nid wyf chwaith yn cofio gweled cymaint o'r Arglwydd mewn nemawr fan erioed,—fe'm mawr siriolwyd yma. Yr ydwyf i fyned at odfa yn yr hwyr yn agos i'r lle hwn. A'th gyngor, Arglwydd, arwain fi.' Trafferthwyd ychydig ar fy meddwl heb wybod pa lwybr i gymeryd, ond anturiais drîn ychydig ar drosglwyddiad yr efengyl at y Cenhedloedd. Ni allaf feiddio dywedyd fy ngadael yma ychwaith, ond cefais fy nhwyllo i ryw radd uwch ben y gwirionedd. Aeth rhwymau llawer yn rhydd. Treuliwyd wedi'r odfa hyd haner nos, yn adrodd y naill wrth y llall y pethau a berthynent i achos Crist.