Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"26. Heddyw dechreuodd yr hin newid, a chafwyd llawer o wlaw pwysig neithiwr. Yr oedd genym ffordd anial, tros fynyddoedd a thrwy afonydd, i fyned at yr odfa gyntaf. Yma cyfarfum yr ail waith a'r brodyr Is. I. a E. R. o'r Gogledd. Cefais eu bod wedi dechreu y gwaith cyn ein dyfod. Ymdrechais i lefaru ychydig yn ganlynol, a chefais radd o help. Ni welais yr arch mewn mor waeled lle er y daethum o gartref. Daethom yn nghyd i dy gŵr boneddig yn yr hwyr, yn yr hwn y cefais ymgeledd mawr. Dechreuwyd yr odfa, a mawr ofnais mae tan gwmwl y buaswn, ond ni phrofais er dechreu'r daith gymaint tiriondeb. Cefais ehedeg mewn awyr glir gyda'r athrawiaeth. byth! Clod byth am yr odfa hon!

***** "31. Yr oeddwn trwy'r holl daith i wynebu lleoedd dyeithr, a gweled wynebau dyeithr, felly heddyw eto. Ond Sabbath ydyw heddyw. Wedi dyfod at odfa'r boreu, yr oedd yno frawd arall i ddechreu'r gwaith. Daeth cynnulleidfa luosog iawn yn nghyd, a chefais radd o helaethiad cysurus gyda'r gwaith. Oddi yma aethom at yr ail odfa yn y prydnawn; yma yr oedd llû mawr yn nghyd. Nid oes neb a ŵyr ond yr Arglwydd gymaint terfysg fy meddwl ar yr achos; ond O! na fedrwn fyned i'r llwch i gofio y tro hwn. Nid wyf yn cofio profi fy enaid yn ymlenwi cymaint erioed wrth drafod y gwirionedd. Gwenodd yr Arglwydd arnaf, ac ar y gwaith. Gwnaed y lle yn Bethel yn wir. Diolch, diolch !"