Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. III.

Symudiad Mr. Richard i deulu James Bowen, Ysw.—Mawr lwyddiant ei weinidogaeth yn
Aberteifi, a'r gymmydogaeth—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Amgylchiad hynod yn Ngwesty
Pont-ar-Fynach—Ei ymdrechiadau o blaid sefydlu yr Ysgol Sabbothol—Llythyr y Parch. Ebenezer
Morris ato ef ar yr achos—Llythyr ato ef oddi wrth y Parch. John Elias—Un arall oddiwrth y
Parch. Thomas Charles, Bala.

Yn ystod y flwyddyn 1806, cymerodd cyfnewidiad arall le yn nhrigfa ac amgylchiadau Mr. Richard, trwy ei symudiad i Aberteifi, i fod yn athraw teuluaidd i feibion y boneddig duwiol hwnw, James Bowen, Ysw., wedi hyny o Lwyn-gwair. Am yr achlysur a'i harweiniodd i'r sefyllfa hon, rhoddir yr hanes ganlynol gan yr un cyfaill caredig a grybwyllasom eisioes, yr hwn oedd yn byw yn y dref hono. "Yr achos o ymweliad cyntaf eich tad ag Aberteifi oedd fel y canlyn. Daeth yno i ymgynghori a meddyg mewn perthynas i'w iechyd, yr hwn oedd y pryd yma yn wael iawn. Barnai pawb a'i gwelai ei fod mewn darfodedigaeth dwfn, ond dywedodd y gŵr meddygol wrtho, os arosai am dymhor yn y dref, a chymeryd ei gyffeiriau ef yn gyson, nad oedd yn ammau y byddai iddo wellhau. Penderfynodd eich tad yn ddioed i wneuthur felly, ac er ein mawr lawenydd trwy y cyfnewidiad hwn, yn nghyd a bendith Duw ar y moddion meddygol, adferwyd ei iechyd i raddau mawr. Ar yr amser uchod yr oedd boneddig duwiol iawn yn byw yma, yr hwn a lwyddodd gyda'ch tad i ddyfod a byw yn ei dŷ ef, ac