Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae yn ddilys genyf na bu edifar byth ganddo iddo gydsynio â'r cais; oblegid yr wyf yn sicr, tra yr arosodd efe yn y teulu hwn, fod cymaint o barch a sylw yn cael eu dangos iddo, a phe buasai yn un o honynt eu hunain. Byddent arferol o fyned gydag ef i'w deithiau sabbothol trwy'r dydd, a'i ddwyn adref gyda hwynt yn yr hwyr. Yr wyf yn cofio y tro cyntaf yr aeth eich tad i'r Gogledd i'r gŵr boneddig ei hun a'i was i fyned gydag ef yr holl ffordd yno ac yn ol. Yr oeddwn yn aml yn bresenol ar yr addoliad teuluaidd, yr hwn ydoedd yn wir yn Bethel. O mor ddifrifol y byddai yn dadleu dros y teulu, yr eglwys, a'r bŷd yn gyffredinol? Y mae yn dyfod i'm cof am un amser nodedig, a gafodd eich tad, pan wrth y ddyledswydd deuluaidd yn y teulu rhag-grybwylledig. Un nos sabbath, wedi bod trwy y dydd yn llefaru tros ei Feistr, aeth ef fel arferol i weddi, a thywalltodd ei Dad nefol arno ef, a llawer creill yn bresenol, y gwlaw grasol i'r fath raddau, nes peri iddynt foliannu'ei enw am oriau meithion o'r nos. Yr wyf yn cofio y rhan ddiweddaf o'r pennill oeddynt yn ganu y noswaith hono.

Caf godi 'mhen o dan eu tra'd,
A gwaeddi congcwest yn y gwa'd,
A myn'd i mewn i dy fy Nhad,
Ac aros yno byth."

"Y mae llawer yma nad anghofiant byth yr amser pan oedd efe yn byw yn Aberteifi. Bendithiodd yr Arglwydd ei lafur mewn modd nodedig, er galw llawer o bechaduriaid o'r tywyllwch i ryfeddol oleuni yr efengyl. Chwanegwyd llawer iawn at yr eglwys yma a'r eglwysi cymmydogaethol trwy ei weinidogaeth ef—ac nid ychydig o honynt sydd wedi myned i ogoniant.