Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yr ysgol sabbothol yma ac yn yr holl wlad yn mwynhau llawer o'i lafur. O mor ddedwydd y byddai wrth ymweled a'r ysgolion, a holi y plant! Gwelais ef a'r plant yn fynych yn wylo gyda eu gilydd, nes y byddai y mwyaf calon-galed yn y lle yn gorfod wylo hefyd, a chyfaddef fod Duw yn wir yn eu mysg. O fy anwyl gyfeillion, fel y bu yn llafurio yn y rhan hon o winllan ei Arglwydd, mewn amser ac allan o amser. Llwyddodd mewn modd rhyfeddol i ddwyn achosion perthynol i'r ysgol sabbothol i'r drefn ag y maent ynddi yn bresennol."

Oherwydd tebygolrwydd egwyddorion a thueddiadau, yr oedd undeb o'r natur anwylaf rhyngddo ef a'r boneddwr duwiol, yn nheulu pa un yr oedd yn cyfanneddu. Yn yr addoliad teuluaidd gweddiai efe yn Gymraeg, a'r Cadben Bowen yn Saesoneg ar ei ol, ac arferai ddywedyd fod y wledd nefol a gaent trwy'r gwasanaeth hwn, uwchlaw yr hyn a allai geiriau osod allan. Y mae hanesyn tra nodedig wedi ei gadw ar gael mewn cysylltiad a'i daith gyntaf i'r Gogledd, yn nghymdeithas Mr. Bowen, at yr hon y cyfeiriwyd eisoes. Llettyasant am noswaith ar eu ffordd i Gymdeithasiad Llanidloes yn Ngwesty Pont-ar-Fynach. Gofynwyd caniatâd i gadw addoliad teuluaidd, ac i gael yr holl deulu yn nghyd iddo, ac, wedi derbyn cydsyniad, gweddiodd mor rhyfeddol nes gorfu ar wr y tŷ, a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau, ymadael o'r ystafell, gan lefain a'i ddwylaw yn blethedig, " O beth a wnâf, beth a wnâf?"

Crybwyllwyd eisoes am y rhan a gymerodd y tymhor hwn o'i fywyd gydag achos yr ysgolion sabbothol, ond anmhriodol fyddai myned heibio i'w lafur gyda'r gorchwyl godidog hwn heb ryw ychwaneg o sylw.