Gellir cyfrif yn wir mae trwy ei offerynoldeb ef yn benaf y sylfaenwyd ac yr adeiladwyd y sefydliadau gwerthfawr hyn yn Neheudir Cymru. Ymddengys iddo o'r dechreuad gael ei lyncu i fynu â rhyw zel anniffoddadwy drostynt, yr hon ni lwyddodd dim i'w dihuddo na'i gwanychu hyd oriau olaf ei einioes.
Byddai yn fynych yn crybwyll gyda llawenydd ac ymffrost amlwg ei fod wedi ei eni yn yr un flwyddyn ag y sefydlwyd yr ysgol sabbothol gyntaf, gan Mr. Raikes.
Wrth edrych dros ei ddyddiadurion am y blynyddau hyn, gwelwn eu tudalenau wedi eu britho â'i addewi dion a'i ymrwymiadau mewn cyssylltiad a gwahanol gyfarfodydd yr ysgolion; ac, i'r dyben o alluogi y darllenydd i ffurfio cryfach a chyweirach dychymyg o'i wresogrwydd gyda'r gwaith hwn, yn nghyd a'r teimladau anwyl a thadol oedd yn hanfodi rhyngddo ef ac hyd yn nod aelodau ieuangaf yr ysgol sabbothol, ni a drosglwyddwn yma yr hyn a ysgrifenodd efe ei hun am Chwefror 28, 1808.
"Yn Nghapel Drindod, ar yr 28 o Chwefror, 1808, adroddodd Eliza Griffiths, plentyn pedair blwydd oed, y ddwy Salm gyntaf yn gywir i mi.
Yn Nghlôs-y-Graig, prydnawn yr un dydd, dymunodd lodes ieuanc 15 oed, yr hon oedd yn glâf iawn, ac yn ymddangos mewn darfodedigaeth dwfn, fy ngweled, i'r dyben o iddi gael adrodd ei phennod, a ddysgasai yn ei gwely, ac adroddodd (er yn dyoddef diffyg anadl mawr) y 25 o Matthew, yn o gywir.
"Yn Nghastell-Newydd, yn hwyr yr un dydd, wedi holi yn gyhoeddus, ar ol i'n hodfa fyned trosodd, dilynodd lliaws o'r plant yn perthyn i'r ysgol fi i dŷ cyfaill, ac, wedi canu ychydig hymnau, a'u lleisieu bach,