fel hyn, wedi gweled am ugeiniau o flynyddoedd, yn colli eu golwg. 3. Barn Duw wedi taro rhai yn ddeillion weithiau; fel hyn yr oedd ar drigolion Sodom, cael eu taro â dallineb disymwth nes oeddynt yn ymbalfalu am y drws, a ffaelu ei gael; a phur debyg mae trengu yn ddeillion wnaethant dan y gafod frwm- stan. 4. Trwy ddwylaw dynion; felly y gwnaed âg Hezeciah.
Y mae hefyd amryw achosion i ddallineb ysbrydol:
1. Llygredigaeth natur: nid yn ddeillion y creodd Duw ddynion ar y cyntaf. O na, 'roedd Adda yn gweled yn eglur ac yn mhell, ond fe ammharwyd ei natur yn y fath fodd trwy bechod, fel yr aeth yn ddall, ac y mae ei ol i'w weled ar ei holl hiliogaeth; yn ddall o galon. 2. Y diafol; y mae ganddo ef law ryfedd yn y gwaith hwn.
3. Hunan-dyb ac ymchwydd-meddwl ei fod yr hyn nid yw. Felly yr oedd yr eglwys yn y Datguddiad, Goludog wyf, a mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim.' Wel, a oes dim o honi felly? O nac yw, heb weled mae hi; pe gwelai ei hun, ' y mae yn dlawd, yn anghenus, yn ddall.'
4. Diffyg y grasusau ysbrydol hyny â pha rai y mae y gwaredigion yn cael eu cynnysgaeddu, megis ffydd, amynedd, cariad, &c.; ' a'r hwn nid yw y rhai hyn ganddo, dall ydyw.'
5. Anwybodaeth wirfoddol; cau eu llygaid yn erbyn y goleuni-ni fynant mo hono.
6. Barn Duw yn rhoi i fynu i ddallineb.
II. Gorchwyl Duw yw agor llygaid y deillion. Salm cxlvi. 8; cxix. 18. Esa. xlii. 7. Luc xxiv. 45. 1 Pedr ii. 9.
1. Nid oes neb arall yn meddu digon o allu.