llawer o diriondeb, fel plant yr ysgol sabbothol, a ninau a'i carem ef agos fel ein heneidiau ein hunain. Yr wyf yn cofio yn berffaith mae prif bynciau ei weinidogaeth, a'r hyn a lanwai ei feddwl sanctaidd wrth holi yr ysgolion, oedd Person, Aberth, ac Iawn Crist. Dyrchafai ei lais peraidd a nerthol ar y pethau mawrion hyn, nes y byddem ni ag ynteu yn wlyb mewn dagrau.
Llawer gwaith y dywedodd, flynyddau lawer ar ol hyny, pan fyddem mewn cyfeillach, a'r ymddiddan yn dygwydd troi at yr amser uchod, Dyma fe; mi holais ef lawer gwaith nes oedd yn chwysu;' a gwir oedd, mi chwysais lawer gwaith wrth geisio ei ateb.”
Priodol yw hefyd yn y fan hon i osod ger bron ein darllenwyr y llythyr canlynol oddi wrth y Parch. Ebenezer Morris; nid oherwydd unrhyw bwys neillduol ynddo ei hun, ond fel y mae yn rhoddi dangosiad hyfryd o'r dull yr oedd y dynion enwog hyn, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, yn dwyn i gyd-weithrediad gyda'r gwaith hwn y ddau feddwl mawr, a adawsant y fath argraff cyffredinol ac annileuedig ar Gymru wedi hyny. Diau yr edrych llawer arno gyda'r un boddlonrwydd a hoffder ag a deimlir wrth ganfod cyssylltiad rhyw ddwy ffrwd nerthol, yn agos i'w tarddiad, yn cymmysgu eu dyfroedd, ac yn cydredeg yn un afon loyw lifeiriol trwy yr holl wastad-diroedd eang, nes peri i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu o'u plegid, y diffeithwch hefyd i orfoleddu, ac i flodeuo fel y rhosyn." Yr oedd yr ysgrifenydd ar ei ddychweliad o daith yn Sir Frecheiniog
"ANWYL FRAWD,
"Mae rhagluniaeth yn agoryd i mi i ddyfod adref