nos Sadwrn Sulgwyn, ac yn gyfleus i ni ddydd Llun i ddyfod i'r cyfarfod; y mae rhyw siarad am dano i fod yn Blaen-annerch Llun y Sulgwyn, a plant yr ysgolion i gyfarfod. Dymunaf arnoch i hysbysu i'r manau a feddylioch yn addas cyn y sabbath. Mae yn sicr y byddai da i ddeg neu ragor o ysgolion gydgyfarfod. Os gellwch hysbysu i'r Twrgwyn a'r Penmorfa, cyn y delwyf adref, fe fydd da genyf. Nid rhaid enwi wrthych y manau ereill.. Mae Owen[1] a minau yn golygu i'r cyfarfod ddechreu am naw neu ddeg y boreu; ni settlwn y canlyniad pan cyfarfyddom.
Eich cywir gyfaill,
EBR. MORRIS.
Aberhonddu,
- Mai 30ain, 1808.
"O.Y. Byddai yn llesol i ddau bregethu ar ol yr holiad; mae yn debygol mae chwi a minau fyddant; os cewch dueddu eich meddwl i draethu am y lles gateciso, minau soniaf am y gwerth o dduwioldeb boreuol-cystal fyddai ei gyhoeddi yn gymanfa y plant."
Y mae yn ddiammheuol genym y darllenir gyda hyfrydwch mawr y llythyr canlynol a dderbyniodd yn fuan ar ol hyn oddi wrth y gweinidog enwog, enw pa un a welir wrtho.
ANWYL FRAWD,
Yr ydwyf yn bod mor hyf arnoch ag ysgrifenu ychydig linellau atoch, gan ddymuno arnoch fod cystal a hysbysu i'r Major Bowen pa fodd yr ydwyf. Ni allaf ysgrifenu Saesneg yn hwylus, neu buaswn mor
- ↑ Owen Enos, yr hwn mae'n debyg oedd ei gyfaill ar y daith hon.