Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyf ag ysgrifenu ato fy hun. Yr ydwyf yma er wythnos i'r Llun diweddaf, ac yn bwriadu aros hyd ddydd Sadwrn. Y mae y dwfr yn gwneud llês i mi; yr ydwyf yn gobeithio y bydd o les mawr yn y canlyniad, ac, er fy mod yn parhau yn lled wan, yr ydwyf yn dysgwyl cryfhau wedi darfod yfed y dwfr. . . . Dywedwch wrth y Major Bowen fy mod yn ddiolchgar iawn iddo am ei ofal am danaf, a fy mod yn cofio yn garedig ato ef, a Mrs. Bowen. . . . . Anwyl Frawd, dymunaf i chwi gael llawer o wyneb yr Arglwydd gyda chwi yn mhob man yn ngwaith mawr y weinidogaeth. Yr ydwyf yn y dyddiau hyn yn gweled llawer o'm gwaeledd, a fy annghymwysder i'r gwaith mawr hwn— cael fy ysbryd yn rhy bell oddi wrth Dduw, ac yn rhy ddiwasgfa am achubiaeth y bobl. Yr ydwyf yn gorfod gwaeddi allan yn wyneb mawredd y gwaith, Pwy sy ddigonol i'r pethau hyn?' ond gan fod yr Arglwydd wedi dewis cymeryd offerynau gwael yn ei law, ag wedi dewis rhoddi trysor y weinidogaeth mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni'-nid oes achos digaloni er maint ein gwaeledd a'n annghymhwysderau ; ond dylem geisio ein rhoddi ein hunain iddo Ef, fel, er mae gwendid ydym, y byddom yn wendid Duw, ac yn ei law ef yn gryfach na dynion. Dwy demptasiwn hynod sydd gan y diafol i geisio ein dyrysu a'n rhwystro yn y gwaith; un ydyw ceisio ein cadw rhag gweled mawredd y gwaith, a'i ysbrydolrwydd, fel y byddom ddiofal a diwasgfa yn y gwaith; ac yn ganlynol, yr ymchwyddom, ac y balchiom, ac y tybiom ein bod yn rhyw bethau mawr. Yr ydwyf yn meddwl fod yn anmhosibl i ddyn falchio yn ngolwg mawredd y gwaith; os ydym yn gweled ei fawredd, yr ydym yn ein gweled ein hunain yn bethau gwael iawn