Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei fwriad. Ar ol methu dyfod i unrhyw foddlonrwydd mewn cynnadledd bersonol âg ef ei hun, penderfynwyd terfynu yr achos trwy farn Cyfarfod Misol y Sir, a gynnelid oddeutu yr amser hwn yn Aberystwyth. Aeth Captain Bowen ac un o flaenoriaid eglwys Aberteifi yno, a bu dadl boeth rhyngddynt â thrigolion blaen y sir ar y pwnc; ond beth bynag, trodd y fantol o du iddo fyned i Dregaron.

Ymddengys fod Mr. Bowen yn y cyfamser wedi cael cyfrinach ar y pwnc â'r Parchedig Mr. Charles o'r Bala, ac wedi deisyf arno ef i anfon at Mr. Richard i'w gynghori, a'i rybuddio rhag cymeryd y cam hwn. Mewn ateb i'r cais yma, anfonodd Mr. Charles y llythyr canlynol, yr hwn wedi hyny a gyflwynodd Mr. Bowen i Mr. R., ar ol i'r chwthrwm bychan a achosodd yr amgylchiad rhyngddynt fyned drosodd. Y mae yn hyfrydwch mawr genym fod yn ein gallu i ddwyn ger bron ein darllenwyr y llythyr rhagorol hwnw, nid yn unig oherwydd ei gymhwysder at yr achos mewn llaw, ond hefyd fel y mae yn ddangosiad hynod o'r doethineb, a'r synwyr, a'r sylw craffus ar ffyrdd rhagluniaeth y cyfeiria efe ei hun atynt yn nghorph y llythyr.

"ANWYL SYR,

Yr ydwyf yn gofyn eich hynawsedd am fy mod cyhyd heb gyd-synio a'ch dymuniadau caredig, y rhai a fynegasoch i mi ar ein hymadawiad yn Machynlleth. Yr ydwyf wedi bod yn iach er hyny, ond mewn ffwdan mawr, yn teithio o un rhan o'r wlad i'r llall, ac yn awr yr wyf gartref am ychydig ddyddiau, cyn cychwyn i Gymdeithasiad Pwllheli. Oddi wrth yr hyn a glywais yn Machynlleth, tebygwn ei bod yn awr yn rhy ddiweddar i ysgrifenu dim ar y testun y buoch yn