Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddyddan â mi yn ei gylch. Yr wyf yn gobeithio fod y gwr ieuanc wedi cael ei gyfarwyddo yn gywir, a'i lywodraethu gan ddybenion pur. Y mae yn anhawdd ymyraeth gyda diogelwch yn achosion rhai ereill, a symudiadau personau o un sefyllfa i'r llall. Geill fod gan yr Arglwydd ddybenion anhysbys i ni i'w cyflawni trwy bethau a ymddangosant i ddynion yn annoeth, os nad yn bechadurus yn y personau. Am hyny carwn i yn hytrach rybuddio yn garedig, a gweddio, na dweyd yn benderfynol yr hyn a ddylai neb rhyw un ei wneuthur. Efallai fod yr Arglwdd yn rhag-weled rhyw niweid mawr nad yw ganfyddedig i ni sydd yn debyg o ddygwydd os erys yn y lle y mae ynddo yn awr, neu ryw ddyben mawr i'w gyflawni ganddo ef neu rai o'i hiliogaeth trwy ei symudiad. Geill fod gan yr Arglwydd ddybenion mewn golwg i'w cwblhau yn mhen cant neu fil o flynyddau eto, trwy yr hyn a ymddengys yn awr yn ddamweiniol, ie, a thrwy bethau sydd a golwg annymunol arnynt. Y mae rhagluniaeth ddoeth yn bod ag sydd yn goruchwylio ac yn trefnu pob dygwyddiadau, bychain a mawrion, pa un ai pechadurus ai sanctaidd, gyda golwg ar yr offerynau eu hunain. Geill yr offerynau fod yn hollol ar gam yn eu bwriadau a'u golygiadau, a dyoddef yn llym am yr hyn a wnaethant, ac eto fod y dybenion oedd gan yr Arglwydd i'w cyflawni yn anfeidrol ddoeth a da.

"Heblaw hyny, y mae yn ddichonadwy i'r person weithredu oddi ar y dybenion cywiraf, ac eto canfod anhawsderau yn y ffordd y mae yn gorfod myned iddi, a geill ei ymddygiad ymddangos yn gyndyn ac yn gyfeiliornus i ereill. Yr wyf wedi cyfarfod âg esiamplau o'r natur hyn, ag y bu gorfod i bawb wedi