Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny i gyfaddef llaw yr Arglwydd, gyda llawer o ddiolchgarwch. Y mae yn bwnc cynnil iawn, chwi welwch, fy anwyl Syr, i ymyraeth ag achosion rhai ereill mewn un modd, ond trwy gynghorion caredig a gweddi. Yr wyf yn dymuno yn ddiffuant i'r brawd Richard fod o dan gyfarwyddyd dwyfol yn holl amgylchiadau dyfodol ei fywyd, ac y mae yn ddiau yn teilyngu ystyriaeth a gweddi mwyaf difrifol ganddo, cyn y goddefo unrhyw reswm i effeithio arno i symud o sefyllfa ag y mae Duw wedi ei alw iddi, ac yn mha un y mae yn amlwg ei fod wedi ei wneuthur yn ddefnyddiol i'w eglwys. Gweddai i ni grynu wrth feddwl ymadael a neb rhyw le, oni byddai yn ymddangos fod ein llafur drosodd trwy annefnyddioldeb, y fendith arferol yn cael ei hattal. Ar ol gosod y pethau hyn yn syml o'i flaen, yr hyn yn ddiau a wnaethoch eisoes, yna cyflwynwch ef i'r Arglwydd, a gwnaed yr Arglwydd yr hyn a fyddo da yn ei olwg. Nid gweddus i ni gyffwrdd a'r arch, fel pe baem yn rhy bryderus am ei diogelwch trwy anghrediniaeth. Y mae efe yn gweithredu fel Pen-Arglwydd dwyfol, gydag urddas a doethineb anfeidrol, ac a fyn i ni oll gyfaddef nad ydym ond abwydod y llwch, ac ydym yn hollol anadnabyddus o'i amcanion goruchel, a'r troelliadau manwl trwy ba rai y mae yn eu dwyn i ben.

"Yr wyf fi yn fynych yn teimlo yn gythruddol iawn, ond y mae fy nyryswch yn gyffredin yn tarddu o anghrediniaeth a diffyg amynedd. Un o'r prif bethau yn y dysgrifiad a roddir o'r pren planedig ar lan afonydd dyfroedd, yw ei fod yn rhoddi ei ffrwyth yn ei bryd. Yr ydym yn fynych yn canfod yr hyn a ddylasem ei wneuthur, pan y mae'r tymhor i weithredu wedi myned heibio; i ddwyn ei ffrwyth priodol yn yr