Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn bryd, a ofyn gyfran nid bychan o ddoethineb, synwyr, a sylw craffus ar ffordd rhagluniaeth. Yr ydwyf fi yn teimlo yr angenrheidrwydd o ddylanwadau effeithiol ac awdurdodol yr Ysbryd dwyfol ar fy meddwl yn mhob peth, bychan a mawr. Nid oes dim yn fwy dianrhydeddus a niweidiol i'r eglwys, na bod i ddynion byrbwyll a rhyfygus i yru pob peth o'u blaen, gyda rhyw ruthr ynfyd, nes iddynt daraw eu hunain, a'r achos yn mha un y maent wedi ymgydio, yn erbyn craig sydd yn amlwg i bawb ond hwy eu hunain. Y maent yn ymddwyn fel pe na byddai un Duw yn bod, a bod pob peth yn cael ei lywodraethu ganddynt hwy.

Y mae fy anwyl gymhares, yr hon sydd iach, a'r rhan arall o'r teulu, yn ymuno gyda mi mewn cyfarchiad mwyaf caredig at Mrs. B. a chwithau. Byddai lawen genym eich gweled yn y Bala.

Ydwyf, anwyl Syr,

gyda pharch mawr,

"Yr eiddoch yn ffyddlon a chariadus,

THOMAS CHARLES.

Bala,
Medi 19, 1809."

Er hyn i gyd, mor afaelgar oeddynt am dano yn Aberteifi, fel y methodd ganddynt fod yn esmwyth heb wneuthur un cynnyg arno drachefn; a chyn pen wythnos daeth Captain Bowen a'r blaenor rhag-grybwylledig, ar eu hunig neges i Dregaron i wneuthur ail-ymosodiad arno. Ond wrth ganfod tuedd ei wraig a sefyllfa fethiedig ei rhieni, gorfu arnynt roddi i fynu eu hymdrech; ac, fel prawf fod ei gyfaill caredig Mr. Bowen wedi gweled o'r diwedd briodoldeb ei benderfyniad yn yr achos hwn, gellir coffau, iddo ef a'i deulu