ddyfod i fynu i Dregaron, i fod yn bresennol yn y briodas.
Mor hynod yr eglurhawyd yn ol llaw sylwadau doeth Mr. Charles ar drefniadau rhagluniaeth, fel y maent yn swnio i ni yn awr, wedi gweled y canlyniad, yn mron yn brophwydoliaethol; ac, fel y dywedir i'r Parchedig Mr. Rowlands sylwi am dano ef ei hun, mai rhodd Duw i'r Gogledd oedd Charles, felly y byddai y Parchedig Mr. Williams, o Ledrod, arferol o sylwi am dano yntau," Rhodd Duw i Aberteifi yw Richard."
Cyn diwedd y flwyddyn hon, pennodwyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir, yr hon swydd a gyflawnodd hyd ddiwedd ei fywyd gyda gofal, deheurwydd, a threfn, nas cystedlir yn fynych.
Yn Awst, yn y flwyddyn 1810, ganwyd ei fab hynaf, Edward.
Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Tregaron, canfu, er mawr dristwch i'w feddwl, fod yr eglwys yno, yn nghyd a'r eglwysi cymmydogaethol, mewn sefyllfa dra dirywiedig ac annhrefnus. Yr oedd hen arferiad lygredig yn y rhan hono o'r wlad, pan y byddai pobl ieuainc yn myned i'r sefyllfa briodasol, o barotoi a gwerthu diod gadarn i'r gwahoddedigion oedd yn bresennol ar yr achlysur. Yr oedd hyn nid yn unig yn drosedd yn erbyn y llywodraeth, ac yn yspeiliad o gyllid cyfreithlon y brenin, trwy ddarllaw y ddiod heb y drwydded (licence) ofynol, ond hefyd yn achos ffrwythlon o anfoesoldeb dirfawr a gwarthus drwy yr holl ardaloedd.
Yr oedd y bobl ieuainc ar yr amserau hyny yn ymroddi, heb fesur na rheol, i gyfeddach, maswedd, a meddwdod; a byddai crefyddwyr yn arfer ymgymmysgu â hwynt yn eofn, a llawer o honynt fel y gellid