megis i rai wrth lythyrau canmoliaeth wrthych chwi? Ein llythyr ni ydych chwi, yn ysgrifenedig yn ein calonau, yr hwn a ddeallir ac a ddarllenir gan bob dyn, gan fod yn eglur mae llythyr Crist ydych, wedi ei weini genym ni, wedi ei ysgrifenu nid âg inc, ond âg Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau ceryg, ond mewn llechau cnawdol y galon."
Nid mynych y gwelwyd datguddiad mwy hynod o rym rhagfarn, nag a ddangoswyd yn yr amgylchiadau hyn gan y gweinidogion eglwysig, at ba rai y cyfeiriwyd. Yr oeddynt yn credu ac yn uchel-gyhoeddi fod y rhan fwyaf o'u brodyr parchedig yn y Sefydliad, nid yn unig yn weinidogion anffyddlon, ond yn ddynion o galon anneffroedig, ac o fywyd annichlynaidd, ac eto mynent i'w dysgyblion dderbyn yr elfenau sanctaidd o ddwylaw y cyfryw, yn hytrach na goddef iddynt gael eu gweinyddu gan ddynion, fel pregethwyr boreuaf y Trefnyddion Calfinaidd, am ba rai y beiddiwn ddywedyd, na bu er dyddiau yr Apostolion nifer o weinidogion mwy zelog, duwiol, a doniol yn eu gwaith.
Ond er cymaint oedd eu hawdurdod yn y wlad, yr oedd anghysondeb eu hymddygiad, yn y pwnc hwn, yn ymddangos mor noeth, i lygaid y bobl, fel na chawsant nemawr i'w cefnogi, yn eu gwrthwynebiad, i ddymuniad ag oedd yn ymddangos mor rhesymol i bawb. Wedi hyn dygwyd y peth yn mlaen yn uniongyrchol o tan sylw yn nghyfarfodydd mwyaf cynnrychiolwyr y corph, lle, ar ol llawer o ddadleuon poeth, y penderfynwyd y cynnygiad hwn, yr hyn a gyflawnwyd yn y dull canlynol.—Pennodwyd rhyw nifer o'r blaenoriaid mwyaf syml a synwyrol, o bob sir, i gyfarfod yn Llandilo-fawr, yn Sir Gaerfyrddin, i'r dyben o ymgynghori â'u gilydd yn nghylch y personau mwyaf