Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

priodol i gael eu neillduo. Y canlyniad fu iddynt ddewis tri-ar-ddeg o wahanol siroedd y Deheubarth, yn mysg pa rai yr ydoedd (dros Sir Aberteifi) y Parch. Ebenezer Morris, y Parch. John Thomas, a gwrthddrych y cofiant hwn.

Wedi i'r personau a ddewiswyd yno gael eu cymeradwyo gan yr amrywiol gyfarfodydd misol, dygwyd y peth i weithrediad yn Nghymdeithasiad Llandilo, yr hon a gynnaliwyd ar yr 8fed o Awst, 1811, lle yr urddwyd i holl waith y weinidogaeth y brodyr hyny, gan y Parchedigion John Williams, Lledrod, Thomas Charles, Bala, a John Williams, Pant-y-Celyn.

Am yr amgylchiad hwnw, hoff yw genym osod ger bron ein darllenwyr y cofion canlynol, a drosglwyddwyd i ni gan gyfaill parchedig ag ydoedd yn bresenol ar yr achlysur.

"Mewn perthynas i'r ymneilltuad cyntaf, er fy mod yno, y mae'r rhan fwyaf wedi ei anghofio. Ond yr wyf yn cofio tri pheth yn berffaith, sef, laf. Mae y gymdeithas hono oedd yr un fwyaf ofnadwy y bum ynddi yn fy mywyd. Yr oedd pob cnawd yn crynu, ïe, yr oedd hyd yn nod llawer o'r gweinidogion mwyaf duwiol, hyawdl, a chadarn yn yr Ysgrythyrau, bron yn methu ateb gan fawredd Duw.

"2il. Dull hynaws Mr. Charles, o'r Bala, yn gofyn y chwestiynau. Yr oedd ei wedd yn hardd a siriol, ei eiriau yn fwyn ac ennillgar iawn. Wrth ddechreu gofyn i bob un, arferai yr un geiriau, sef, 'A. B., a fyddwch chwi mor fwyn a dweyd gair o'ch meddwl am y bod o Dduw,' &c.

"3ydd. Wrth weled amrai yn crynu, a bron yn methu, yr wyf yn cofio yn dda fy mod mewn pryder mawr, mewn perthynas i'ch tad, rhag ofn iddo golli,