Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oblegid yr oedd yn ieuangach na hwynt oll. Ond cafodd ei hoff bwnc, sef Duwdod Crist; a phan glywais hwnw, syrthiodd fy maich yn y fan, oblegid gwyddwn fod hwn yn anwyl ac fel A, B, C, ganddo. Dywedodd ei feddwl arno yn oleu, rhydd, yn gadarn, ac i foddlonrwydd mawr, fel y collais fy ofnau ar unwaith."

Yn Ebrill, 1812, ganwyd ei ail fab, Henry.

Yn y flwyddyn hon hefyd torodd diwygiad grymus allan yn Tregaron a'r eglwysi cymmydogaethol. Nid yw yn perthyn i ni yn bresenol i ymholi i natur yr ymweliadau rhyfedd hyn. Y mae yn hysbys i bawb sydd yn adnabyddus o hanes crefyddol Cymru, iddynt yn fynych gael eu defnyddio gan yr Arglwydd i adfywio ei achos yn y wlad, i "helaethu lle ei babell, ac i estyn cortynau ei breswylfeydd," ac felly y tro hwn; a chroesawyd ei ymddangosiad yn awr gyda llawenydd mawr dros ben, fel arwydd nad oedd Arglwydd Dduw eu tadau wedi ymadael a'r gwersyll, nac wedi anfoddloni, oblegid y cyfnewidiad diweddar a gymerasai le yn eu plith.

Bu gweinidogaeth Mr. Richard yn yr ymweliad hwn yn llwyddiannus anarferol, a gellir crybwyll fel un prawf o hyn yr engraifft ganlynol. Pregethodd yn Llangeitho, ryw foreu Sabbath yn yr amser hwn, oddiar Luc xvi. 23, gyda'r fath nerth ac arddeliad dwyfol, fel y dwysbigwyd wyth-ar-hugain o eneidiau trwy y bregeth. Yn nghyfarfod yr eglwys a gymerodd le yn fuan ar ol hyny, ychwanegwyd deg-ar-hugain at ei nifer, o ba rai yr wyth-ar-hugain a grybwyllwyd eisoes a briodolent eu hargyhoeddiad i'r bregeth hono. Fel yr oedd y Parch. Mr. Williams (yr hwn oedd y diwrnod hwnw yn cadw y cyfarfod eglwysig) yn ymddiddan