Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

WRTH gyflwyno y gwaith hwn i sylw ein cydwladwyr, crefwn ganiatâd i grybwyll nad ydym wedi arbed llafur na thraul i'w wneuthur yn deilwng o enw y gwrthddrych a gofnodir, ac o sylw darllenyddion deallus Cymru. Yr ydym wedi beiddio ymarfer cymaint o hyder yn ein cyd-genedl, yn enwedig y rhan hòno o honynt sydd yn perthyn i'r Trefnyddion Calfinaidd, a chredu na chyfrifant gyfrol o'r maintioli hyn yn ormod o deyrnged i goffadwriaeth un a dreuliodd ei holl fywyd yn eu gwasanaeth, a thuag at ba un y byddent arferol o broffesu tra yn fyw gymaint o barch, cariad, a diolchgarwch. Pa un a ydyw yr hyder hwn wedi ei gam-osod, amser a ddengys.

Ein hamcan yn nghyfansoddiad y gwaith oedd cadw priod ddull (idiom) y Gymraeg mor belled ag y medrem, a gochelyd defnyddio geiriau ansathredig ac annealladwy, gan nad ydym yn gweled na rheswm na dyben yn yr arfer sydd yn rhy gyffredin gan rai ysgrifenwyr Cymreig, o fritho eu cyfansoddiadau â geiriau clogyrnaidd ac anghynefin, oddieithr yn wir eu bod yn cael eu dwyn i mewn i'r dyben o guddio moelni meddyliau y rhai a'u defnyddiant.

Y mae yn ddyledus i ni gydnabod caredigrwydd amryw o'n cyfeillion yn Nghymru, am y parodrwydd