Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddangosasant i weinyddu i ni bob cynnorthwy yn eu gallu tuag at gwblhau ein gorchwyl. Ac yn mlaenaf ac yn benaf, dylem nodi y cefnogaeth a'r cyfarwyddyd a dderbyniasom oddiwrth ein hanwyl ewythr, y Parch. Thomas Richard, ar yr hwn yr ydym yn edrych yn bresennol fel yr unig un y gallwn bwyso arno, wedi colli "tywysog ein ieuenctyd."

Gweddus yw i ni hefyd goffau gyda diolchgarwch enwau Mr. David Jenkins o Aberteifi, a'r Parch. Thomas Evans, o Gaerfyrddin, y rhai a anfonasant i ni amryw hysbysiadau tra gwerthfawr mewn perthynas i ranau boreuol o fywyd gweinidogaethol ein hanwyl dad. Y mae yn gweinu i ni hyfrydwch galarus i grybwyll enw y diweddaf o'r gwŷr hyn, pan ystyriom ei fod er y pryd y derbyniasom y cyfarchiad hwnw oddiwrtho, wedi canlyn ei hen gyfaill i'r "breswylfa lonydd." Ac am dano ef gofynwn genad i sylwi wrth fyned heibio, na anadlodd erioed ddyn o ysbryd mwy cywir a thrwyadl, nac o galon fwy addfwyn a thyner. Addas yw i ni ddwyn y dystiolaeth hon i gymeriad y gwr cyfiawn hwn, canys dangosodd tuag atom ni ofal a charedigrwydd mawr, pan yr oeddem yn ieuainc, ac yn preswylio mewn gwlad ddyeithr.

Os cawn le i farnu fod ein gwaith yn dderbyniol, y mae genym eto lawer o ysgrifeniadau Mr. Richard yn ein meddiant, pigion o ba rai a ellir eu cyhoeddi mewn cyfrol fechan, os dangosir unrhyw awydd am eu cael.

45, Chiswell Street, LLundain,
Mawrth 1, 1839.