Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod ei gynneddfau a'i alluoedd yn wanach na'r rhai sydd wedi cyrhaedd cyflawn oed. Nis gallasai ef wneuthur un dewisiad gweithredol, na chyflawni un gwasanaeth personol, ond atebodd efe y dyben i osod allan berffeithiau a rhagluniaeth Duw; ac yn amgylchiadau ei enedigaeth, a'r tiriondeb a fu yn gwarchac trosto yn ei fabandod, yr oedd yn esiampl neillduol o allu, doethineb, a daioni Duw. Da fyddai, pe b'ai y rhai sydd yn marw yn oedranus yn ateb dyben eu creedigaeth mor uniawn a'r rhai sydd yn marw mewn cyflwr o fabandod.

5ed. Yr wyf yn cyfaddef mae unig blentyn oedd yr eiddoch chwi, yr hyn a wna eich profedigaeth yn drymach, ond eto cofiwch amgylchiad Job, i. 18, a'r weddw o Nain, Luc vii. 12. Gwelwch ufudd-dod parod Abraham yn achos ei unig fab; ond, uwchlaw y cwbl, ystyriwch ddigyffelyb gariad Duw, yr hwn a roddodd ei Fab, ei anwyl, ei gyntaf-anedig, ei unig Fab, drosom ni, Ioan iii. 16; Esaia liii. 6-10.

6ed. Ystyriwch eich sefyllfa gyfammodol eich hunain. Mae eich rhan yn y cyfammod yn sicr, pa beth bynag y mae yn ei gymeryd oddiwrthych. Y mae Duw ei hun yn eiddoch chwi, a holl addewidion y cyfammod newydd. Y mae Crist, Mab Duw, yn eiddoch chwi, a holl bwrcas ei waed, 1 Cor. iii. 21, 22. Y mae yn fendith fwy bod ein hunain yn blant i Dduw, ac yn aerion (heirs) etifeddiaeth nefol, na chael teulu lluosog, a'r llwyddiant mwyaf yn ein bywyd, Esaia lvi. 5.

7fed. Ac yn olaf, dymunwn i chwi ystyried fod yn rhaid i ni fyned yn fuan at ein cyfeillion ymadawedig, a bod gyda hwynt drachefn. Fy anwyl gyfeillion, nid ysgariad tragywyddol ydyw, ond yn unig am amser. Nid ydyw ond y pellder sydd rhwng y ddau fyd, ac