yn fawr. Gwr o ddoniau mawr i draddodi ei feddwl, mewn iaith oruchel a manwl. ***** Sad. 28. Treuliais y prydnawn yn fy myfyrgell, ond och mor grwydredig fy meddyliau, mor wasgaredig, ac mor anhawdd eu cael at bethau ysbrydol! Gwelais bod mor anhawdd myfyrio yn y 'stafell ac ar yr heol, heb neillduol gynnorthwy. ***** Ebrill, Iau, 1. Yn y prydnawn aethum i Gapel Guildford Street, lle yr oedd cangen o'r Gymdeithas Feiblaidd Gynnorthwyol yn mysg y Cymru yn cyfarfod. Yma yr oedd un Mr. Davies yn y gadair, a llefarodd amryw ar yr achos yn Gymraeg a Saesoneg, ac yn eu mysg llefarais inau ychydig ar y modd mae i ni ddangos parch gwirioneddol i'r datguddiad dwyfol. Teimlais hwylusdra i ryw raddau yn y gwaith, a bu yn dda genyf fod yno. ***** 4. . . . .Aethum heddyw i weled y rhyfedd-beth hynod hwnw yn Leicester Square, sef darluniad o frwydr Waterloo yn y Panorama yno; ni welais ddim erioed i gystadlu ag ef; fe'm mawr synwyd wrth edrych arno, a meddyliais os oedd y creadur mor gywrain, pa beth oedd y Creawdwr? . . . . Treuliais y prydnawn i gyd oll yn fy myfyrgell, gan ymdrechu, trwy weddi a myfyr, i ymbarotoi ar gyfer y Sabbath oedd yn dyfod. ***** 5. Dyma'r trydydd Sabbath wedi gwawrio arnaf yn Llundain. Aethum gyda ychydig o'm cyfeillion i gapel bychan yn y Borough; yna llefarais oddiwrth Salm xlviii. 18. Holais yr ysgol, a chyfrenais yr
Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/73
Gwedd