Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Epistolau at y Rhufeiniaid a'r Hebreaid i'w dysgu. Yma cawsom gyfarfod gwerthfawr. Aethom oddi yma, a, chan fod amser yn caniatau, daethom i Gapel Surrey i wrando y Parch. Rowland Hill, a chawsom ei bregeth ef i gyd oll. Dychwel'som i Wilderness Row mewn cerbyd. Yn y prydnawn ymdrechais lefaru gair ar eiriolaeth Crist. Teimlais drymder mawr ar natur. Bedyddiais ddau blentyn ar y diwedd. Ar ol gorphwys ychydig, daeth odfa'r hwyr, a soniais am ogoniant Breniniaeth Crist. Profais radd o eangiad yn y gwaith. Yn y gymdeithas ddirgel derbyniwyd un wrthgil-wraig, merch ieuanc. Felly terfynodd y Sabbath gwerthfawr hwn, ar ol i mi gael bod bedair gwaith yn nhŷ Dduw, yn dysgwyl wrtho, a gobeithio y gallaf ddywedyd nad yn ofer. Bydded y mawl i'r Arglwydd, a'r llwch i minau.

6. Yn yr hwyr cadwyd cymdeithas ddirgel yn W. R., yn yr hon yr ymddiddanwyd â dau berson ag oeddynt yn cynnyg eu hunain yn aelodau—un ydoedd wrthgil-wraig o'r wlad, a dyn ieuanc arall, dan raddau go fawr o argyhoeddiadau. Fel hyn terfynais y dydd hwn yn nhŷ Dduw, lle y dymunwn derfynu dyddiau mywyd.

7. Aethum y boreu hwn i eglwys Bartholomeus i wrando'r hen wr Mr. Wilkinson. Pregethodd oddiwrth Matt. xxviii. 19, 20, yn rhagorol o werthfawr; ar ffurf bedydd yr arosodd yn benaf. Gwrandewais ef gyda llawer iawn o hyfrydwch, a theimlais ddiolchgarwch nid bychan am gael y fraint. ***** 11. Aethum heddyw i synagog yr Iuddewon, lle yr oedd llawer o ugeiniau o honynt yn addoli; y cwbl yn wag a hollol ddisylwedd: nid rhyfedd wrth ystyried