eu bod tan y llen hyd y dydd hwn. Dychwelais trwy'r Royal Exchange, y Bank of England, a St. Paul's; yma gwelais bethau tra rhyfedd, sef yn mhob un o'r lleoedd uchod: yn R. E. gwelais yr ysgrifenlaw gywreiniaf yn y byd; yn y llall gwelais drafod arian fel trafod ceryg; yn y trydydd gwelais gywreinrwydd mwyaf y celfyddydau. ***** 13. Treuliais y boreu hwn i ysgrifenu llythyrau at fy nghyfeillion yn y wlad. Ysgrifenais at y Gymdeithas yn Nghapel Gwynfil, &c. Derbyniais hefyd lythyr oddiwrth y Parch. Mr. Williams, o Ledrod, mewn ffordd o atebiad i'r un a anfonais i ato ef; bu yn llawen iawn genyf ei gael. . . . Yn yr hwyr aethum i Jewin Street Chapel, i gyfarfod cymwynasgar i'r tlodion, lle yr oedd Dr. Collyer yn y gadair. Ni welais gyfarfod hyfrydach yn fy mywyd. Mawl i Dduw am gael bod ynddo!
14. Treuliais y boreu hwn gartref i ddarllen ac i ysgrifenu. Yna aethum ymaith gyda'r cerbyd i Greenwich a Woolwich. Yma ymdrechais lefaru am y sylfaen a osodwyd yn Seion. Cawsom gymdeithas neillduol, lle'r ymddiddenais â thri o'r brodyr. Annogais hwy i godi Ysgol Sabbothawl; i hyn cefais fwy o wrthwynebiad oddiwrth yr enw blaenor oedd yno na neb arall: fath beth gwael yw'r cyfryw heb zel a gostyngeiddrwydd. Gwelais fod pob gwaeledd yn rhwym o oresgyn yr eglwysi hyny sydd ag iddynt y fath flaenoriaid. O am ras cyfaddas i'r lle y galwodd Duw ni iddo, fel na byddom yn rhwystr i'r gwaith! ***** 16. Aethum y boreu hwn i dŷ yn Old Jewry, lle y mae yr ystafelloedd cenadwriaethol. Gwelais yma