Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos —J. Thornton, Ysw., Esgob Caerloyw, —— Stevens, Ysw., Esgob Norwich, W. Wilberforce, Ysw., Admiral Sir—— Dr. Thorpe, &c.

6. Dyma foreu yr ydwyf wedi bod yn hiraethu er ys blynyddau am ei weled, sef Cyfarfod Blynyddol y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Cymerodd rhai cyfeillion eu boreufwyd gyda ni; yna aethom yn nghyd i Freemason's Hall, ar ol yn gyntaf lenwi'r llogellau yn dra llwythog. Bu y tocynau yn werthfawr i ni heddyw; cawsom le tra chyfleus. Yma gwelais Mr. Griffiths, Hawen, &c. yn y gymanfa. Am 12, daeth y gwir anrhydeddus gadeiriwr, Arglwydd Gambier, yn mlaen, a llefarodd ychydig wrth gymeryd y gadair yn weddus ac yn hyfryd iawn. Darllenwyd gweithrediadau'r gymdeithas am y flwyddyn a aeth heibio gan y Parch. Mr. Deltry. Yna llefarodd y gwŷr canlynol:-canghellwr y drysorfa, Esgob Cloyne, y cenadwr Americanaidd, Iarll Harrowby, Arglwydd Teignmouth, y Llyngeswr Sir James Saumarez, Mr. Wardlaw o Glasgow, Esgob Norwich, Esgob Caerloyw, Parch. Robert Newton, cenadwr, Prince Hesse Homberg, Sir Thomas Ackland, Dr. Henderson o Russia, J. Thornton, Ysw., Esgob Derry, W. Wilberforce, Ysw., y Parch. J. Owen, Professor Farish, &c.: ac felly terfynodd y cyfarfod enwog hwn.

7. Gwrandewais y boreu heddyw un Mr. Cooper, yn Christ Church, Newgate Street. Ei destun oedd Heb. xiii. 9, rhan gyntaf. Ei fater oedd dangos gwerth y llyfr gweddi cyffredin a homiliau, gan eu bod yn gadwraeth rhag athrawiaethau amryw a dyeithr, &c. Yn y prydnawn aethum gyda fy nghyfaill Mr. O. W. i Hoxton, lle y cefais y fraint fawr o wrando'r Parch.