Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Wardlaw, o Glasgow. Ei destun oedd 1 Tim. i. 15. Dyma wir a phur efengyl; ac fel y sylwodd un gwr boneddig wrth ddyfod allan, yn ngeiriau Dr. Simpson, "Yr oedd yma bwysau da."

8. Bum yn fy myfyrgell yn ysgrifenu hyd ddeg o'r gloch; aethum wedi hyny i St. Paul's, Covent Garden, i wrando Mr. Simeon yn pregethu dros y Gymdeithas i daenu Crist'nogrwydd yn mhlith yr Iuddewon. Ei destun oedd Ezec. xxxvii. a'r chwech adnod gyntaf. Oddiwrth hyn dangosodd, yn I. Gyflwr presennol yr Iuddewon. II. Dyledswydd Cristionogion tuag atynt. Ac yn III. Yr annogaethau i hyny. Pregeth ragorol ar yr achos! Wedi ciniaw daethom i Freemason's Hall i gyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod, lle yr oedd Sir Thomas Baring yn y gadair, a chlywsom y gwŷr canlynol yn llefaru: Darllenodd Mr. Hawtry y Report; yna gwnaeth y Parch. Basil Wood araeth, a dygodd ddau-ar-bymtheg-ar-hugain o blant i'r areithfa, y rhai yn hyfryd iawn a ganasant, "Canys bachgen a aned i ni," &c. yn Hebraeg, a "Hosanna i Fab Dafydd," yn Saesoneg. Yna tynasant yn ol, bob yn un ac un, a llefarodd Esgob Gloucester ar yr achos, a darllenodd Basil Wood, ar ei ddeisyfiad ef, rai annodau ar gân o gyfansoddiad Iuddew Germanaidd. Yna cyfododd Admiral Sir James Saumarez ar ei ol ef yn hyglod, W. Wilberforce, Ysw., Parch. J. Owen, ac ereill.

***** "11. Aethum y boreu hwn i Guildford Street i gymanfa'r Anymddibynwyr, lle llefarodd Ebenezer Jones yn Saesoneg, a minau yn Gymraeg; ni'm gadawyd yma, diolch! Yna dychwelais gydag O. W. i dŷ Mr. Roberts, Brick Lane, i giniaw. Yma cefais gyfarfod â'r Parch. Matthew Wilks, a threuliais ran