o'r prydnawn gydag ef, ond nid oeddwn yn cyd-olygu âg ef am athrawiaeth maboliaeth Crist. Wedi iddo ef ein gadael, aethom yn nghyd, O. W. a minau, i'r Babell (Tabernacle,) lle y clywsom bregeth tra rhagorol gan un Mr. Warr, o Cheshunt; pregeth o bur efengyl; pechadur yn ddim, a gras yn bob peth. Fe'm llonwyd yn fawr yn yr odfa hon, ac aethum i'm ffordd yn llawen, fel un wedi cael ysglyfaeth. ***** "13. Aethum y boreu heddyw i Gapel Surrey, lle yn rhagluniaethol iawn y cefais le i eistedd heb braidd ei ddysgwyl. Ar ol i'r Parch. Mr. Hill ddarllen y gwasanaeth, pregethodd y dyn anwyl hwnw o Glasgow, Mr. Wardlaw, oddiwrth Act. xvii. 16. O mor bwysig, O mor rhagorol oedd! Dychwelais i giniaw, ac, heb hir oedi, aethom i'r Babell, ond yr oedd y lle yn fwy na llawn, a methais ond prin gwthio i mewn. Yma pregethodd y Parch. Mr. Cooper, o Ddublin, oddiwrth Esaia xlii. 6, 7; a phregethodd un arall o'r tu allan ar unwaith ag ef, oherwydd lluosogrwydd y dorf; dwy bregeth ragorol, ond rhaid rhoddi'r flaenoriaeth i'r gyntaf: nid oedd y llall yn ateb i ddysgwyliadau neb.
14. Aethum erbyn chwech y boreu hwn i'r City of London Tavern, lle yr oedd cyfarfod blynyddol y Tract Society, Joseph Reyner, Ysw., yn y gadair. Darllenodd Pellatt, Ysw., yr hanes flynyddol, a llefarodd y gwŷr canlynol ar yr achos: H. Marten, Ysw., Parch. Meist. Waller, Leigh Richmond, Dr. Henderson, Wardlaw, Saunders, H. F. Burder, &c. Yr oedd hwn yn ddiau yn gyfarfod tra rhagorol. Dychwelais gyda brys i Spa Fields, lle'r oedd y Gymdeithas Genhadawl yn cadw ei chyfarfod blynyddol; T. A. Hankey, Ysw., y trysorwr, yn y