Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadair. Darllenwyd yr hanes gan y Parch. G. Burder a'i fab; yna llefarodd y gwŷr canlynol: Dr. Bogue, Mr. Wardlaw, Mr. Wray, Dr. Henderson, Mr. Bunting, (Wesleyad,) J. Wilks, Ysw., &c.

15. Aethum am chwech i gymeryd boreu-fwyd yn City of London Tavern, lle yr oedd yr Hibernian Society yn cyfarfod; Samuel Mills, Ysw., yn y gadair. Darllenodd ef yr hanesiaeth, yna llefarodd y gwŷr canlynol: T. Haldane, Ysw., Parch. Leigh Richmond, —— Stevens, Ysw., Mr. Wardlaw, Dr. Thorpe, ac ereill. Bu hwn yn gyfarfod gwerthfawr iawn. Aethom, sef O. W. a minau, yn y prydnawn i Gapel Sion, lle yr oedd gwerin fawr wedi ymgasglu i gydgymuno. Dr. Bogue wrth y bwrdd. Yma rhaid i mi addef nad oeddwn yn gweled dim mawredd ar y gwaith; yr oedd yn ymddangos i mi yn gnawdol a gwael.

16. Aethum y boreu hwn i Albion Tavern, Aldersgate Street, i gyfarfod blynyddol y Gymdeithas er Amddiffyn Rhyddid Gwladol a Chrefyddol, (The Society for the Protection of Civil and Religious Liberty;) Dug o Sussex yn y gadair. Lefarodd J. Wilks, Ysw., ar yr achos, a Dr. Bogue, Mr. Townsend, Mr. Hill, Mr. Wilson, Alderman Wood, ac amryw ereill. ***** 20. Cymerais foreu-fwyd gyda y Parch. Mr. Howells; daeth yn fwyn iawn i fy ngheisio. Aethum gydag ef i alw ar Mr. Hill; ni chefais ef gartref, am hyny dychwelais yn fuan. . . . . Yn yr hwyr traddodais fy nghenadwri am y tro olaf yn Wilderness Row; y testun oedd Dat. xxii. 21. Daeth cynnulleidfa anarferol yn nghyd, a chefais raddau anarferol o ryddid