Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwi destyn," ebai hithau, "os ydych yn addaw canu arno." Ac fel y gellid disgwyl i fardd, addawodd yntau wneyd, a hynny cyn gwybod beth ydoedd. "Wel, o'r goreu, cyfansoddwch bryddest ddiodl i'r—sofa." Testyn digon anfarddonol, ynddo ei hun, ond ymaflodd Cowper yn y dasg, a chyfansoddodd farddoniaeth ardderchog—un o gynyrchion goreu ei awen. "I sing the sofa," meddai, ac wrth wneyd hynny y mae yn talu gwarogaeth i'r testyn sydd yn cael ei drafod ar ddalennau y llyfr hwn—y gadair. Dywed fod gwneuthuriad y gadair gyntaf yn gyfystyr a dydd geni Dyfais "the birthday of Invention." Ar y dechreu, nid oedd ond dernyn digon anolygus o gelfyddyd—

"weak at first,
Dull in design, and clumsy to perform."

Ond er fod y dechreu yn syml ac amherffaith, aeth y ddyfais rhagddi nes y daeth y gadair yn ddodrefnyn esmwyth, hylaw a chelfydd. Ac os