Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cafodd Cowper ddefnyddiau barddoniaeth yn y sofa, yr ydym ninnau yn credu y gellir cael defnydd ychydig sylwadau ymarferol mewn cadair. Dyna ein hesgusawd dros alw sylw y darllenydd at "Gadeiriau Enwog," gyda'r amcan o olrhain rhyw gymaint ar eu hanes a'u dylanwad. Nid ydym yn cadw masnachdy dodrefn, ac nid ydyw dirgelion celfyddyd y cabinet—maker wedi eu meistroli genym. Ac nid cadeiriau Eisteddfodol sydd yn benaf o flaen ein meddwl, er fod y rhai hynny yn cael eu cydnabod, yn eu tro, yn mysg y lluaws. Yr ydym, yn hytrach, yn edrych ar gadeiriau yn eu cysylltiad â phersonau, ac â bywyd cymdeithasol.

Y mae "cadair" yn ymadrodd ehang: defnyddir ef am bethau tra gwahanol o ran ffurf a maint—cadair y Gymanfa, Cader Idris, &c. A ydyw "cadair" a "chader" yn eiriau cyfystyr? Dywed Dr. Owain Puw nad ydynt. Y mae