Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cader, meddai ef, yn golygu amddiffynfa, neu gaer, megis Cader Idris, cader Bronwen, &c. Os ydyw yr esboniad hwn yn gywir, y mae yn eglur nas gallwn ddodi "Cader Idris" ar y rhestr sydd yn canlyn; oblegyd â'r "gadair" fel eisteddle, ac nid y "gader" fel amddiffynfa filwrol y mae â wnelom yn bresennol. Fod cader Idris yn un o'r "cadeiriau enwog" sydd anwadadwy, ac y mae Dr. Cynddylan Jones yn ei lyfr diweddar ar "Primeval Revelation" yn rhoddi esboniad tra gwahanol arni i'r eiddo Dr. Puw. Yn ol ei dyb ef, yr oedd Idris yn gyfystyr ag Enoch, y "seithfed o Adda." Ac yr oedd y patriarch hyglod hwnnw, fe ymddengys, yn astronomydd, yn un o rag-redegwyr astronomyddion Caldea. Ac yn gymaint ag nad ydoedd y telescope wedi ei ddyfeisio ar y pryd, yr oedd Enoch a'i gyd-efrydwyr yn cyflenwi y diffyg drwy ddringo y mynyddau, esgyn mor agos i'r nefoedd wybrenol ag oedd yn bosibl.