Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac yn ystod yr ymdeithiau hyn, daeth y patriarch rywfodd i Gymru, a chafodd fod y mynydd sydd gerllaw Dolgellau yn lle tra manteisiol i astudio y planedau. Dyna y rheswm iddo gael ei alw, gan oesau dilynol, yn "Gader Idris." Nid amddiffynfa filwrol ydoedd, ond arsyllfa seryddol yn moreu'r byd! Yr ydym yn dweyd. hyn ar awdurdod y "Davies Lecture" am 1896. A chan i mi grybwyll am gader Idris, y mae yn weddus dweyd fod yna gader arall llawer uwch na honno. Yr enw a roddir ar un o'r cydser (constellations) sydd ar gyffiniau y Llwybr Llaethog ydyw "Cassopeia," yr hyn o'i gyfieithu ydyw,—"cader y foneddiges." Dywed chwedloniaeth mai un o frenhinesau Ethiopia ydoedd y foneddiges anturiaethus hon, a osododd ei chader yn mysg ser y nef. Dylai hyn weinyddu cysur i amddiffynwyr y "New Woman." Dyweded doctoriaid Rhydychain a Chaergrawnt y peth a fynont ar y pwnc o roddi