Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"graddau" i'r rhyw fenywaidd, y mae y "ser yn eu graddau" yn cydnabod eu rhagoriaeth. "Cader y foneddiges" ydyw yr uwchaf drwy holl derfynnau Natur fawr!

Ond cadeiriau Natur ydyw y rhai'n, ac am hynny rhaid eu gadael, gyda moesgrymiad gwylaidd, o'r byd isel a ffwdanus hwn. Gadawn y "gader" i rywun arall, a cheisiwn draethu ein dameg am gadeiriau, hen a diweddar. Nid oes dim yn athronyddol nac yn ddyfnddysg yn y sylwadau: ond yr ydym yn dychymygu am ambell ddarllenydd, ar ddiwedd goruchwylion y dydd, yn eistedd yn ei gadair ddewisol, wrth y ffenestr, neu yn ochr y tân, ac yn mwynhau awr neu ddwy mewn dystawrwydd a boddhad, yn nghwmni y cadeiriau hyn, a'r cymeriadau sydd wedi eu gwneyd yn enwog ac yn anfarwol.

YR AWDWR.