Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd yn dangos gweithrediad deddf dadblygiad yn fwy eglur na'r dodrefnyn cyffredin ac adnabyddus hwn—y gadair. O ran defnydd a ffurf y mae wedi mynd drwy gyfnewidiadau lawer. Arall yw cadair y gegin, ac arall yw cadair y parlwr: arall yw cadair y plentyn, ac arall yw cadair yr henafgwr. Y fath wahaniaeth sydd rhwng cadair galed, gefn—uchel yr amser fu, a chadair esmwyth, glustogaidd, y dyddiau diweddaf hyn. Yr oedd y naill yn syml a diaddurn, a'r llall yn gynyrch celfyddyd ddiwylliedig.

Y mae yr ysgrif y cyfeiriwyd ati yn olrhain y gadair yn ol i'w ffurfiau cyntefig, ac y mae y cwestiwn yn ymgynyg,—Pwy a luniodd y gadair gyntaf erioed? Pwy ydoedd tad y drychfeddwl? Y mae'n eithaf amlwg y dylid ei ystyried yn gymwynasydd i wareiddiad. Yr ydym yn ddyledwyr iddo am un o gysuron penaf ein bywyd teuluaidd a chymdeithasol.