Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Byd rhyfedd i ni, heddyw, fuasai byd heb gadair. Y mae yn un o anhebgorion bywyd. Nis gellir gwneyd hebddi mewn bwthyn na phalas. Ond ymddengys fod enw a hanes yr hwn a roddes fod i'r drychfeddwl, fel llawer dyfais arall, yn gorwedd mewn dirgelwch.

Nid oes neb yn gwybod yn mha gyfnod, neu yn mha wlad yr oedd yn byw. Hyn sydd sicr, —yr oedd yn byw yn lled gynar yn oes y byd, ac yn un o rag—redegwyr ein gwareiddiad. Y mae gwledydd sydd eto heb agor eu llygaid ar y drychfeddwl: nid ydyw cadair yn adnabyddus ynddynt. Ond yn mysg cenedloedd gwareiddiedig y mae y gadair yn bod, ac wedi bod, er's llawer dydd. Sonir am dani mewn llenyddiaeth henafol, ac fe ddywedir fod Plato yn cyfrif y gadair yn mysg y "drychfeddyliau"—yr ideal state. Y mae yn cyflawni rhan bwysig yn mywyd dyn a chymdeithas. Ac yn yr ystyr yna y bwriedir trafod y testyn ar y dalennau